Cerddi – Stwff Call http://stwffcall.cymru Gwaith ysgrifenedig amrywiol Stuart Estell Fri, 11 Feb 2022 08:48:39 +0000 en-US hourly 1 https://wordpress.org/?v=6.5.3 198745640 Yr Ysgol Fomio http://stwffcall.cymru/2022/02/11/yr-ysgol-fomio/ http://stwffcall.cymru/2022/02/11/yr-ysgol-fomio/#respond Fri, 11 Feb 2022 08:44:52 +0000 http://stwffcall.cymru/?p=41 Tôn: Calon Lan.

Nid wyf un sy’n hoff o losgi,
Arferau, neu bethau ffrom
Yr ydwyf ond am fyw mewn heddwch,
Heb ymosod, heb y bom.

[ymunwch â’r cytgan]
Ysgol fomio, llawn drygioni,
Tecaf yw eich niwl o fwg –
Dim ond ysgol fomio llosgodd –
Nawr dw i yma, yn y jwg

Ni losgasom am adloniant;
Roedd ein calonnau’n drom.
Fe losgasom am ein rhydd-der
Rhag ymosod, rhag y bom.

Ysgol fomio, llawn drygioni,
Tecaf yw eich niwl o fwg –
Dim ond ysgol fomio llosgodd –
Nawr dw i yma, yn y jwg.

Hanner miliwn oedd yn erbyn,
Hanner miliwn ohonom;
Pan wnaethant ein anwybyddu,
Yna ddaethom am eu bom.

Ysgol fomio, llawn drygioni,
Tecaf yw eich niwl o fwg –
Dim ond ysgol fomio llosgodd –
Nawr dw i yma, yn y jwg.

Gwlad heb iaith yw gwlad heb galon,
Llawn o bryder, llawn o siom;
Fe barha diwylliant Cymru,
Heb eich milwyr, heb eich bom.

Ysgol fomio, llawn drygioni,
Tecaf yw eich niwl o fwg –
Dim ond ysgol fomio llosgodd –
Nawr dw i yma, yn y jwg.

]]>
http://stwffcall.cymru/2022/02/11/yr-ysgol-fomio/feed/ 0 41
Jyst fel ‘Dolig http://stwffcall.cymru/2021/11/23/jyst-fel-dolig/ http://stwffcall.cymru/2021/11/23/jyst-fel-dolig/#respond Tue, 23 Nov 2021 09:02:32 +0000 http://stwffcall.cymru/?p=33 ar ein ffordd i Dudra’th
ddechreuodd y rhew
wedest ti bod hi’n fel ‘Dolig
ond we ti’n rong
gan nad wedd hi fel ‘Dolig o gwbwl

erbyn i ni gyrredd Crymych
trodd yr eira’n law
a’thon ni ar goll
wedd y gwelye’n fach
we ni’n teimlo’n iau
wedd hi’n jyst fel ‘Dolig
jyst fel ‘Dolig

Geiriau gan Alan Sparhawk (Low)
Addasiad Cymraeg gan Stuart Estell

]]>
http://stwffcall.cymru/2021/11/23/jyst-fel-dolig/feed/ 0 33
Cerddi tirlunol http://stwffcall.cymru/2021/10/30/cerddi-tirlunol/ http://stwffcall.cymru/2021/10/30/cerddi-tirlunol/#respond Sat, 30 Oct 2021 10:24:36 +0000 http://stwffcall.cymru/?p=20 Ymateb i sgwrs am farddoniaeth “ddiflas, modern” – pob un cerdd mewn llais gwahanol, cyferbynol. Sai’n cytuno â’r naill na’r llall.

1

bygythiad yw cerdd hiraethus
gyda’i theimlad ffug o heddwch,
a’i chysur uniongyrchol,
yn bell o unrhyw hwdwch –
mae’n bygwth eich iechyd meddwl
gyda’i gobaith darluniadol
gan lenwi eich ymennydd
gyda hen lol adloniadol

derbyniwch fywyd bregus
a dathlu beirdd ansicrwydd
derbyniwch eich anobaith –
gwrthodwch hen symlrwydd
y beirdd tirlunol selog
sy’n breuddwydio drwy’r dydd –
derbyniwch eich anobaith
mae’n well nag unrhyw ffydd


2

bygythiad yw cerdd heb obaith
heb deimlad da o heddwch,
hapusrwydd uniongyrchol,
neu unrhyw gyfeillgarwch –
mae’n bygwth eich iechyd meddwl
gyda’i anobaith tragwyddol,
yn parlysu eich ymennydd
gyda’i hen dywyllwch ceuol

derbyniwch bach o gysur
gan ddarllen beirdd prydferthwch –
gwrthodwch gelf hunllefus –
ymlaciwch ym meddalwch
y beirdd tirlunol selog,
sy’n breuddwydio drwy’r dydd –
gall pob un gerdd dirlunol
adfywio unrhyw ffydd

]]>
http://stwffcall.cymru/2021/10/30/cerddi-tirlunol/feed/ 0 20
2 Gerdd Saesneg David R Edwards http://stwffcall.cymru/2021/10/29/2-gerdd-saesneg-david-r-edwards/ http://stwffcall.cymru/2021/10/29/2-gerdd-saesneg-david-r-edwards/#respond Fri, 29 Oct 2021 16:08:39 +0000 http://stwffcall.cymru/?p=16 Mark E Smith 

Datganodd y radio
Marwolaeth
Mark Edward Smith
Teirgwaith
Unwaith i’r Tad
Unwaith i’r Mab
Ac unwaith i’r Ysbryd Glân.

Roedd rhaid imi ffeindio cornel tawel
Er mwyn yfed afar gwlyb
Fy nhristwch
Cyn cegu
Rhai hylifau cryfach.

Dywedodd Jeff Beck
Bod gan Mark
Y llais canu gwaethaf yn y byd.
Ond, yn fy nghred dlawd,
Yr un mwyaf nerthfawrus oedd ef.

Glanio’r Grisiau

Glaniais fy ngrisiau
Pren heddiw.
Efo brwsh yn gyntaf
Ac wedyn efo sbwng sebonllyd.
Drwy gydol yr amser, meddyliais
Am y saithdegau
A ddechreuodd â Benny Hill
Yn canu “Ernie”
A bu farw yn 1980
Ag Ian Curtis yn crogi
O wden.
Rhyngddynt
Yr oedd nosweithiau
Yn gwylio’r teledu
Gyda fy mam
Dros ei ffags
A’r Cinzano Bianco
A rannodd.

]]>
http://stwffcall.cymru/2021/10/29/2-gerdd-saesneg-david-r-edwards/feed/ 0 16