Straeon – Stwff Call http://stwffcall.cymru Gwaith ysgrifenedig amrywiol Stuart Estell Wed, 01 Dec 2021 16:25:44 +0000 en-US hourly 1 https://wordpress.org/?v=6.5.5 198745640 Ymson Pen-digeidfran http://stwffcall.cymru/2021/12/01/ymson-pen-digeidfran/ http://stwffcall.cymru/2021/12/01/ymson-pen-digeidfran/#respond Wed, 01 Dec 2021 16:22:22 +0000 http://stwffcall.cymru/?p=36 Trefnwyd ymgyrch. Gwnaethpwyd penderfyniad. 
Dyna sicrwydd.
Oer ydy hi. 
Sicrwydd arall.

Tywyll ydy hi. 
Sicrwydd arall.

Pam ydy hi mor dywyll? Nid wyf yn gwybod. 
Dyna ansicrwydd. 

Trefnwyd ymgyrch.
Pam mae fy ngwddf yn wlyb? Nid wyf yn gwybod.
Ansicrwydd arall.

Rwyf yn meddwl yn araf yn yr oerni. Yn y tywyllwch.

Gwnaethpwyd benderfyniad. Y môr. Mae’r môr wastad yn ansicr. 

Er ei bod hi ddim mor ddwfn. Oer ydy hi.

Llong fach. Casgliad o longau bach. Pam yr oeddan hwythau mor fach?

Pam ydy hi mor dywyll? I ble dygir finnau? 

Ni allaf deimlo fy nghoesau. 

Pam na allaf teimlo fy nghoesau? 
Ansicrwydd arall.

Arafia fy meddyliau. Ffurfiwyd pont.

Yr ydwyf yn arafu. 

Pont yr ydwyf. Pont yr oeddwn.
Sicrwydd arall.

Pam ydy hi mor dywyll? Pam?

]]>
http://stwffcall.cymru/2021/12/01/ymson-pen-digeidfran/feed/ 0 36
Jemima http://stwffcall.cymru/2021/11/18/jemima/ http://stwffcall.cymru/2021/11/18/jemima/#respond Thu, 18 Nov 2021 17:42:17 +0000 http://stwffcall.cymru/?p=24 Druan â nhw. ‘Na beth wen i’n feddwl amdani dwê. Cwily mawr wedd e, wê dim byd o’i le cyn ‘ny. 

O, Duw, rhaid imi droi’r cawl. I ni’n câl cawl twmo i fita finicha ar ddydd Sadwrn, t’mod. Nid eithriad yw heddi! ‘Na fe!

Âth popeth tamed bach in rong, i fod in onest. So fi’n siŵr shwt boi wedd e, yr arweinwr. Ddyn byw! We ano fe’n un call, beth bynnag, wir i ti. 

Dw i’n hido amdanyn nhw.

O na, mae’r cawl in stico i’r sosban. Dw i di ‘neud cawl potsh o’r cawl moron. Eto. Duw, duw. Dyw’r sgids in mynd i’r wal ar eu pennau’u hunain o leia. Rhaid imi ganolbwyntio.

Ond mae’n anodd. Sdim cawl i’r crots ‘na, byddwn i’n dychmygu. Dim cawl, dim catre. Dim ond carchar. Am gachfa.

Wen i arfer câl diod ar nos Sadwrn, ond so fi’n ifed rhagor. Mae ifed in hala fi’n rhy hiderus. Rhy debygol i neud pethe fel ‘ny. Sen i ddim wedi bod in ffwdlan, falle bydde’r crots na’n rydd. Sen nhw ‘di cyrredd heb arfe, falle, ond in troi lan gyda dim ond ‘u acenion ecsotig, yna fydden nhw ‘di cwmpo miwn cariad ‘da rocesi fan hyn. Bidden nhw ‘di câl babis. Lot o fabis. O, rwy’n dwlu ar fabis. Ond sdim babis, dim ond tristwch.

Buddugoliaeth wedd e, mae’n debyg.

Wel, dyna beth mae pobol in weud fan hyn, ond we ana i’n tmylo’n fuddugolus ar y pryd, a sai’n tymlo’n fuddugolus nawr. Dim o gwbwl. Nes i dowlu’r fforch wair bant. Arwres nid wyf, nid in barticilar. Na. Dim o gwbwl. Achos o dristwch dw i.

Ond ‘na ni, mae eli at bob clwyf, fel maen nhw’n weud. Neu gawl at bob nos Sadwrn. A sgidie i’u coblo. Bydd rhaid imi gwpla rhein’co cyn machlud yr haul.

]]>
http://stwffcall.cymru/2021/11/18/jemima/feed/ 0 24
Yr Oresgynwraig http://stwffcall.cymru/2021/10/14/yr-oresgynwraig/ http://stwffcall.cymru/2021/10/14/yr-oresgynwraig/#respond Thu, 14 Oct 2021 14:23:47 +0000 http://stwffcall.cymru/?p=10 Continue reading Yr Oresgynwraig]]> Y tro cyntaf iddi ddod i mewn i’r stafell drafod, roedd hi mor anwybodus. Tarfodd ar bobl eraill trwy’r amser, heb gywilydd. Sa i hyd yn oed yn siŵr beth oedd ei chymelliadau am ymuno. Beth oedd e? Gor-hyder? Nid oedd, doedd ond yn or-hyder. Y gwrthwyneb, ansicrwydd am y maes llafur? Falle. Doedd dim modd i wbod.

Ond mae’r anwybodusion wastod yn uchel eu cloch, ac maen nhw wastod yn iawn. Maen nhw’n gwbod yn reddfol shwt i dynnu sylw at eu hunain, wir i ti. Anwybyddir unrhyw un sy’ ddim yn canolbwyntio arnyn nhw yn unig. A, mam bach, goresgynodd y stafell drafod, a threulio’r holl ddosbarth yn perfformio i’w chynulleidfa newydd, fel rhyw fath o forlo gyda phêl. Doedd ‘na ddim lot o gyfoethogiad iethyddol neithiwr.

Daeth yn amlwg bod hi’n dod o bentrefan gerllaw, dim yn bell i ffwrdd. Fe ges i syniad. Fyddai’n hawdd i’w ffeindio hi. Siŵr o fod.

– Siân, medda i i’n nhiwtor, yn hollol ddiniwed, – Rhaid i fi bopo mas am eiliad, sori!

– OK, Eleri, byddwn ni dal yma pan ddaw ddei di’n ôl!

Neidiais i mewn i’r car, ac anelu at y pentrefan. Ceisiais gofio’r golwg o’i ffenest er mwyn lleoli ei thŷ. Dyma ni. Es i â’r pleiars o gist y car, ac ymbalfalu am ei chebl band llydan. Hanfodol yw band llydan, on’d yw e?

Dyma ni. Torrais i fe, cyn mynd gytre i’r dosbarth ar-lein.

– Sori, Siân! Ble’r oeddwn ni?

Mae ‘na oresgynwraig arall yn y dosbarth hwn.

]]>
http://stwffcall.cymru/2021/10/14/yr-oresgynwraig/feed/ 0 10