Yr Oresgynwraig

Y tro cyntaf iddi ddod i mewn i’r stafell drafod, roedd hi mor anwybodus. Tarfodd ar bobl eraill trwy’r amser, heb gywilydd. Sa i hyd yn oed yn siŵr beth oedd ei chymelliadau am ymuno. Beth oedd e? Gor-hyder? Nid oedd, doedd ond yn or-hyder. Y gwrthwyneb, ansicrwydd am y maes llafur? Falle. Doedd dim modd i wbod.

Ond mae’r anwybodusion wastod yn uchel eu cloch, ac maen nhw wastod yn iawn. Maen nhw’n gwbod yn reddfol shwt i dynnu sylw at eu hunain, wir i ti. Anwybyddir unrhyw un sy’ ddim yn canolbwyntio arnyn nhw yn unig. A, mam bach, goresgynodd y stafell drafod, a threulio’r holl ddosbarth yn perfformio i’w chynulleidfa newydd, fel rhyw fath o forlo gyda phêl. Doedd ‘na ddim lot o gyfoethogiad iethyddol neithiwr.

Daeth yn amlwg bod hi’n dod o bentrefan gerllaw, dim yn bell i ffwrdd. Fe ges i syniad. Fyddai’n hawdd i’w ffeindio hi. Siŵr o fod.

– Siân, medda i i’n nhiwtor, yn hollol ddiniwed, – Rhaid i fi bopo mas am eiliad, sori!

– OK, Eleri, byddwn ni dal yma pan ddaw ddei di’n ôl!

Neidiais i mewn i’r car, ac anelu at y pentrefan. Ceisiais gofio’r golwg o’i ffenest er mwyn lleoli ei thŷ. Dyma ni. Es i â’r pleiars o gist y car, ac ymbalfalu am ei chebl band llydan. Hanfodol yw band llydan, on’d yw e?

Dyma ni. Torrais i fe, cyn mynd gytre i’r dosbarth ar-lein.

– Sori, Siân! Ble’r oeddwn ni?

Mae ‘na oresgynwraig arall yn y dosbarth hwn.

Leave a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *