Trefnwyd ymgyrch. Gwnaethpwyd penderfyniad.
Dyna sicrwydd.
Oer ydy hi.
Sicrwydd arall.
Tywyll ydy hi.
Sicrwydd arall.
Pam ydy hi mor dywyll? Nid wyf yn gwybod.
Dyna ansicrwydd.
Trefnwyd ymgyrch.
Pam mae fy ngwddf yn wlyb? Nid wyf yn gwybod.
Ansicrwydd arall.
Rwyf yn meddwl yn araf yn yr oerni. Yn y tywyllwch.
Gwnaethpwyd benderfyniad. Y môr. Mae’r môr wastad yn ansicr.
Er ei bod hi ddim mor ddwfn. Oer ydy hi.
Llong fach. Casgliad o longau bach. Pam yr oeddan hwythau mor fach?
Pam ydy hi mor dywyll? I ble dygir finnau?
Ni allaf deimlo fy nghoesau.
Pam na allaf teimlo fy nghoesau?
Ansicrwydd arall.
Arafia fy meddyliau. Ffurfiwyd pont.
Yr ydwyf yn arafu.
Pont yr ydwyf. Pont yr oeddwn.
Sicrwydd arall.
Pam ydy hi mor dywyll? Pam?