Jemima

Druan â nhw. ‘Na beth wen i’n feddwl amdani dwê. Cwily mawr wedd e, wê dim byd o’i le cyn ‘ny. 

O, Duw, rhaid imi droi’r cawl. I ni’n câl cawl twmo i fita finicha ar ddydd Sadwrn, t’mod. Nid eithriad yw heddi! ‘Na fe!

Âth popeth tamed bach in rong, i fod in onest. So fi’n siŵr shwt boi wedd e, yr arweinwr. Ddyn byw! We ano fe’n un call, beth bynnag, wir i ti. 

Dw i’n hido amdanyn nhw.

O na, mae’r cawl in stico i’r sosban. Dw i di ‘neud cawl potsh o’r cawl moron. Eto. Duw, duw. Dyw’r sgids in mynd i’r wal ar eu pennau’u hunain o leia. Rhaid imi ganolbwyntio.

Ond mae’n anodd. Sdim cawl i’r crots ‘na, byddwn i’n dychmygu. Dim cawl, dim catre. Dim ond carchar. Am gachfa.

Wen i arfer câl diod ar nos Sadwrn, ond so fi’n ifed rhagor. Mae ifed in hala fi’n rhy hiderus. Rhy debygol i neud pethe fel ‘ny. Sen i ddim wedi bod in ffwdlan, falle bydde’r crots na’n rydd. Sen nhw ‘di cyrredd heb arfe, falle, ond in troi lan gyda dim ond ‘u acenion ecsotig, yna fydden nhw ‘di cwmpo miwn cariad ‘da rocesi fan hyn. Bidden nhw ‘di câl babis. Lot o fabis. O, rwy’n dwlu ar fabis. Ond sdim babis, dim ond tristwch.

Buddugoliaeth wedd e, mae’n debyg.

Wel, dyna beth mae pobol in weud fan hyn, ond we ana i’n tmylo’n fuddugolus ar y pryd, a sai’n tymlo’n fuddugolus nawr. Dim o gwbwl. Nes i dowlu’r fforch wair bant. Arwres nid wyf, nid in barticilar. Na. Dim o gwbwl. Achos o dristwch dw i.

Ond ‘na ni, mae eli at bob clwyf, fel maen nhw’n weud. Neu gawl at bob nos Sadwrn. A sgidie i’u coblo. Bydd rhaid imi gwpla rhein’co cyn machlud yr haul.

Leave a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *