Cerddi tirlunol

Ymateb i sgwrs am farddoniaeth “ddiflas, modern” – pob un cerdd mewn llais gwahanol, cyferbynol. Sai’n cytuno â’r naill na’r llall.

1

bygythiad yw cerdd hiraethus
gyda’i theimlad ffug o heddwch,
a’i chysur uniongyrchol,
yn bell o unrhyw hwdwch –
mae’n bygwth eich iechyd meddwl
gyda’i gobaith darluniadol
gan lenwi eich ymennydd
gyda hen lol adloniadol

derbyniwch fywyd bregus
a dathlu beirdd ansicrwydd
derbyniwch eich anobaith –
gwrthodwch hen symlrwydd
y beirdd tirlunol selog
sy’n breuddwydio drwy’r dydd –
derbyniwch eich anobaith
mae’n well nag unrhyw ffydd


2

bygythiad yw cerdd heb obaith
heb deimlad da o heddwch,
hapusrwydd uniongyrchol,
neu unrhyw gyfeillgarwch –
mae’n bygwth eich iechyd meddwl
gyda’i anobaith tragwyddol,
yn parlysu eich ymennydd
gyda’i hen dywyllwch ceuol

derbyniwch bach o gysur
gan ddarllen beirdd prydferthwch –
gwrthodwch gelf hunllefus –
ymlaciwch ym meddalwch
y beirdd tirlunol selog,
sy’n breuddwydio drwy’r dydd –
gall pob un gerdd dirlunol
adfywio unrhyw ffydd

Leave a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *